Welsh Leeds Guide - Directions


By Sian Partridge
December 2 2002

Cyrraedd Headingley

Tacsi

Mae cyrraedd y stadiwm o ganol y dre yn digon hawdd mewn tasci. Mi gymerith tua deg munud, ond mae’r pris yn dibynu ar y traffig ag amser y dydd ond mi ddyle fod rhwng tua £4-£8.

Bws

Os yw’r tasci yn rhy ddrud, y peth orau nesa yw’r bws. Mae’r bysiau rhif 1 (Holt Park), 93 (Cookridge), 96 (Tinshill), 74 (Ireland Wood) a’r 56 (West Park) i gyd yn pasio yn agos, a hyd yn oed yn well, ma’r 74 a 56 yn stopio tu allan. Os ofynwch i’r yrrwr, mi ddyle ddweud wrthoch lle i fynd (mwy yw’r pwynt, lle i ddod bant!).

Car

O ganol y dre, mae yno ddau ffordd allwch fynd, Otley Rd neu ar hyd Kirkstall Rd a wedyn Cardigan Rd. Mae mynd ar hyd Cardigan Rd yn haws – a mae hyd yn oed ambell i arwydd i helpu chi ar eich ffordd.

Ffordd A

O City Square, dilynwch Wellington Rd, new dewch chi i oleuadau sy’n croesu’r A58 flyover. Cerwch syth ymlaen, a mae’r ffordd yn mynd i mewn i Kirkstall Rd. Dilynwch y ffordd a mi ddylech chi basio Yorkshire Television ar y dde. Cariwch ymlaen ar y ffordd, nes dod at mwy o oleuadau. Trowch i’r dde, lan ffordd o’r enw Willow Rd (ond does dim byd amlwg i ddweud taw dyna beth yw enw’r stryd). Mi ddylech weld arwydd frown sy’n dweud Headingley Stadium. Ar ben y ffordd, mae mwy o oleuadau, cerwch syth ymlaen (er mae’r ffordd yn mynd ychydig i’r chwith) – a dyma Cardigan Rd. Ar ol tua milltir, mae Cardigan Rd yn croesi St Michaels Lane. Trowch i’r chwith mewn in St Michael’s Lane, a mi ddyle chi weld y stadiwm och blaen. Mae parcio i gael tu ol y South Stand am £3, neu os i chi ddim moin talu, croeswch y bont rheilffordd, troi yn syth ar y dde, a parcio ar y stryd.

Ffordd B

Mae’r ffordd arall yn mynd a chi trwy’r dre, ond mae’n reit hawdd. Cymrwch y ‘city loop’ sydd yn mynd o flaen Neuadd y dre ag ar hyd y Leeds General Infirmary. Cymrwch y troid i’r dde ar y goleuadau, ag yn sythi i’r chwith ar i’r A660 Otley Rd. Dilynwch y ffordd hyn am rhyw tair milltir nes cyrraedd St Michaels Lane syth reit wrth ymyl yr eglwys o’r un enw. Mae’r Skyrack a’r Original Oak ar y trioad i’r chwith. Mi ddylech chi weld y stadiwm och blaen. Mae parcio i gael tu ol y South Stand am £3, neu os i chi ddim moin talu, croeswch y bont rheilffordd, troi yn syth ar y dde, a parcio ar y stryd.

O’r Draffordd Mae pob traffordd yn dod mewn i Leeds yr un ffordd – rhywben! Y tric yw dilyn yr arwyddion i canol y dre. Pasiwch yr Hilton Hotel ar y chwith, o dan y rheilffordd a mi ddewch allan yn City Square. O hyn ymlaen, dilynwch eidda esboniad ffordd A neu B.

Ar Draed

Peidiwch – neu pob lwc!

Next